Ysgol y Gorlan Tremadog Ysgol y Gorlan Tremadog

Croeso i Wefan Ysgol y Gorlan

Mae Ysgol y Gorlan yn swatio’n daclus o dan ‘Greigiau’r Dre’ ar ymyl pentref Tremadog. Mae Ysbyty Alltwen yn gymydog agos, Moel y Gest yn ei ogoniant o’n blaenau a digon o dir ffermio agored o’n cwmpas.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardaloedd Tremadog, Prenteg, Penmorfa, Golan, Treflys a Chwmystradllyn. Ceir disgyblion hefyd sydd yn teithio o’r tu allan i ddalgylch naturiol yr ysgol. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned eang ag iddi amrywiaeth ieithyddol a chymdeithasol. Gwneir y gorau bob amser i sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n rhan o deulu’r ysgol.

Mae tîm Y Gorlan yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi safonau a gwella’r ysgol yn barhaus. Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig i ni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.

Mae yma awyrgylch ddiogel, hapus a Chymreig. Ein nod yw datblygu’r plentyn cyfan sy’n cyrraedd ei llawn botensial a thyfu’n ddysgwr annibynnol ac aelod gwerthfawr o’n cymuned.

Hysbysfwrdd

Dydd Miwsig Cymru: 7fed o Chwefror 2020

Ein Noddwyr